Y Bwrdd Rheoli

 

Lleoliad:

Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 12 Mai 2016

 

Amser:

10.30 - 12.30

 

 

 

Cofnodion:  MB (05-16)

 

 

 

Aelodau’r Pwyllgor:

 

Claire Clancy (Prif Weithredwr a Chlerc) (Cadeirydd)

Adrian Crompton (Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad)

Anna Daniel (Pennaeth Trawsnewid Strategol)

Non Gwilym (Pennaeth Cyfathrebu)

Elisabeth Jones (Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cyfreithiol)

Nia Morgan (Pennaeth Gwasanaethau Ariannol)

Mark Neilson (Pennaeth TGCh)

Mair Parry-Jones (Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a Chofnodi)

Kathryn Potter (Pennaeth y Gwasanaeth Ymchwil)

Mike Snook (Pennaeth Pobl a Lleoedd)

Craig Stephenson (Cyfarwyddwr Gwasanaethau’r Comisiwn)

Dave Tosh (Cyfarwyddwr Adnoddau'r Cynulliad)

Chris Warner (Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth)

Siân Wilkins (Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau)

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Liz Jardine (Secretariat)

 

 

 

 

 

Eraill yn bresennol:

 

Gareth Watts (Pennaeth Dros Dro Llywodraethu ac Archwilio)

Lowri Williams (Pennaeth Adnoddau Dynol)

Sulafa Thomas (Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Comisiwn a Throsglwyddo i'r Pumed Cynulliad)

 

 

 

<AI1>

1   Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a datganiadau o fuddiant

 

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.

Cydnabu'r Bwrdd ymddeoliad Mike Snook a dymunodd yn dda iddo, gan gytuno y byddai colled fawr ar ei ôl.

 

</AI1>

<AI2>

2   Nodyn cyfathrebu i staff - Craig Stephenson

 

Bydd Craig Stephenson yn drafftio nodyn ynghylch trafodaethau’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y dudalen newyddion.

 

</AI2>

<AI3>

3   Cofnodion y cyfarfod diwethaf - 14 Ebrill

 

Cytunwyd bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd ar 14 Ebrill yn gofnod cywir. 

 

</AI3>

<AI4>

4   Trafodaeth yn dilyn yr etholiad

 

Ystyriodd y Bwrdd etholiad y Cynulliad a dyddiau cynnar y Pumed Cynulliad, gan gynnwys cyfarfodydd cychwynnol gyda'r Llywydd newydd. Rhoddodd Aelodau newydd ac Aelodau a ailetholwyd adborth cadarnhaol iawn ynghylch y croeso cyfeillgar a phroffesiynol a'r trefniadau tyngu llw a gawsant.

 

</AI4>

<AI5>

5   Dangosfwrdd pontio i'r Pumed Cynulliad - Mai 2016

 

Nododd y Bwrdd y dangosfwrdd pontio terfynol a chytunwyd pa mor dda y gweithiodd pawb i gyflawni cymaint.

 

</AI5>

<AI6>

6   Strategaeth y Comisiwn 2016-2021

 

Adolygwyd drafft pellach o'r strategaeth i sicrhau'r Bwrdd ei bod yn adlewyrchu'r trafodaethau, yn gysylltiedig â'r gyllideb ac yn dangos y lefel gywir o uchelgais, gan sicrhau parhad ar yr un pryd. Trafododd y Bwrdd rai mân newidiadau, ond cytunwyd bod y drafft yn dda fel arall.

Bydd y strategaeth yn cael ei chyflwyno i gyfarfod y Comisiwn ar 30 Mehefin.

Cytunwyd na fyddai papurau drafft y Comisiwn yn cael eu cyhoeddi'n fewnol ac y byddai Dave Tosh yn egluro Cylch Gorchwyl y Bwrdd Rheoli.

 

</AI6>

<AI7>

7   Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16

 

Roedd yr Adroddiad blynyddol a'r cyfrifon ar fin cael eu cwblhau a gofynnwyd i'r Bwrdd roi gwybod am unrhyw sylwadau erbyn hanner dydd 13 Mai, cyn i'r drafft terfynol gael ei anfon i Swyddfa Archwilio Cymru ei adolygu. Rhoddodd y Bwrdd ganmoliaeth i Nia Morgan a'r tîm Cyllid, Chris Warner ac eraill am eu gwaith ar yr adroddiad.

 

</AI7>

<AI8>

8   Diweddariad Dangosfwrdd Adnoddau Dynol

 

Gwelodd y Bwrdd gopi o’r Dangosfwrdd Adnoddau Dynol i'w nodi ac fe'i hysbyswyd y byddai trafodaeth lawn ar reoli absenoldeb yn cael ei chynnal yng nghyfarfod y Bwrdd ar 20 Mehefin. Nid oedd lwfansau wedi'u cynnwys yn y dangosfwrdd oherwydd y cytunwyd i gadw'r dangosfwrdd yn syml. Fodd bynnag, roedd hyn yn rhan o'r trafodaethau rhwng Partneriaid Busnes Adnoddau Dynol a Phenaethiaid Gwasanaeth.

 

</AI8>

<AI9>

9   Adroddiad Rheolaeth Ariannol - Ebrill 2016

 

Hefyd, derbyniodd y Bwrdd yr adroddiadau Cyllid ar gyfer mis Mawrth a mis Ebrill i'w nodi. Dywedodd Nia Morgan wrth y Bwrdd fod costau'r etholiad o fewn y gyllideb o hyd, gan ddisgwyl costau diswyddo staff cymorth Aelodau'r Cynulliad, nad oeddent ar gael eto.

 

</AI9>

<AI10>

Cloi'r cyfarfod

 

</AI10>

<AI11>

10      Unrhyw Fusnes Arall

 

Er mwyn symud ymlaen â phrosiect y system gyllid, gofynnwyd i'r Bwrdd roi adborth ar y strwythur codio i Lisa Bowkett cyn gynted â phosibl.

Cyhoeddodd y tîm Ymchwil ai adroddiad 'Materion o Bwys' heddiw.

Gofynnodd Claire Clancy i'r Penaethiaid ddiolch i'w timau a rhoi gwybod iddynt ei bod yn falch iawn o'u gwaith mewn perthynas â'r gwaith o bontio i'r Pumed Cynulliad.

Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd Rheoli ar 20 Mehefin.

 

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

 

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</ TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</ COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>